CROESO.
WELCOME.
CROESO.
WELCOME.

Pam wyt ti yma? A beth fyddi di'n ei gyflawni drwy’r hyfforddiant hwn?
Mae Create the Conditions yn adnodd cydweithredol a ddatblygwyd gan Plan International UK mewn partneriaeth â She is Not Your Rehab a’i ariannu gan Taith. Mae wedi’i gynllunio i roi’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder i ymarferwyr fedru meithrin amgylcheddau sy’n herio agweddau ac ymddygiadau cymdeithasol sydd wedi eu gwreiddio’n ddwfn ac sy’n cyfrannu tuag at Drais ar Sail Rhywedd.
Trwy’r adnodd hwn, byddi’n cychwyn ar siwrnai fydd yn cynnwys hunanystyried a thwf, a chei afael at ddulliau i dy gefnogi di a’r bobl ifanc rwyt ti’n gweithio â nhw er mwyn creu’r amodau cywir ar gyfer gwaith trawsnewidiol o amgylch trais ar sail rhywedd.
Wyth modiwl. Un pwnc trafod.
Mae’r modiwlau hyn wedi’u cynllunio i roi’r wybodaeth, yr offer a’r meddylfryd i ti ar gyfer creu’r amodau i bobl ifanc deimlo’n ddiogel, fel eu bod yn cael eu clywed, a theimlo eu bod wedi’u grymuso.
Y modiwlau
Cyn dechrau'r modiwlau hyn, lawrlwythwch eich dyddiadur dysgu.
Y modiwlau
Cyn dechrau'r modiwlau hyn, lawrlwythwch eich dyddiadur dysgu.
